CAW234 Unigolyn

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Unigolyn

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Yn rhannol

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Fy mhrif bryder am y Bil yw ei fod yn gwneud dysgu Saesneg yn orfodol ar bob oedran fel sefyllfa ddiofyn. Mae'r drefn sy'n cael ei chynnig yn y Bil, o gael ysgolion unigol yn penderfynu "datgymhwyso" hyn, yn hollol annerbyniol, ac os daw hyn i fod bydd yn cael effaith ddifrifol ar dwf addysg Gymraeg. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cynnig hyn yn codi pryderon difrifol am ddiffyg dealltwriaeth y Llywodraeth am addysg Gymraeg, heb sôn am yr effaith y bydd yn ei chael ar bolisi'r Llywodraeth ei hunan o sicrhau cynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg a symud ysgolion ar hyd y continwwm. Does dim rheswm dros gynnwys Saesneg fel elfen fandadol yn y Bil, na mantais o wneud hynny, ond mae'r anfanteision yn sylweddol a bydd yn amddifadu mwy o blant y dyfodol o'r Gymraeg.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Oes, ond does dim angen deddfu dros y Saesneg. Mae'r elfennau mandadol yn rhywbeth penodol iawn ac mae rhesymau penodol iawn dros y tair elfen fandadol arall sydd yn y Bil, ond dim rheswm dros Saesneg, heblaw rhyw deimlad cyfeiliornus bod rhaid cynnwys Saesneg fel "elfen fandadol" os cynhwysir y Gymraeg. Mae Saesneg wrth gwrs yn rhan o'r cwricwlwm drwy'r meysydd dysgu a phrofiad yn 3(1), ond does dim rhesymeg dros ei chynnwys fel "elfen fandadol" o ystyried yr effeithiau negyddol iawn y bydd hyn yn eu cael.

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae'r broses o "ddatgymhwyso" yn debygol o greu gwaith sylweddol a chwbl ddiangen ac rwy'n teimlo y gallai'r elfen hon o'r Bil fod yn bwysau anghymesur pan fyddai dileu Saesneg fel "elfen fandadol" o adran 3(2) yn cael gwared ar y broblem hon yn llwyr, heb ddim anfanteision.

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nid yw'n ymddangos felly

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae'r broses sy'n cael ei chynnig ar gyfer datgymhwyso yn adran 26 y Bil yn mynd i greu canlyniadau anfwriadol anffodus iawn. Mae addysg Gymraeg yn llwyddo ar hyn o bryd i droi plant yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ond mae'r cyfnod trochi yn rhan hanfodol o'r llwyddiant hwn. Bydd y broses yn adran 26 yn tanseilio'r cyfnod trochi hwn yn ddifrifol, ac felly'n tanseilio addysg Gymraeg. Mae hyn mewn cyfnod pan ddylem fod yn gweld cynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg er mwyn anelu at y miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg. Ar hyn o bryd, does dim arwydd bod y Llywodraeth yn gwneud y newidiadau cadarnhaol sylweddol sydd eu hangen er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, a byddai cynnwys Saesneg fel elfen fandadol yn 3(2) a'r broses o ddatgymhwyso yn adran 26 yn golygu camu'n ôl yn lle camu ymlaen, gan wneud y targed o filiwn yn llai tebygol.

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

-

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

-